Cyn y stormydd - Tuscaloosa (RollTide13 CCA 1.0)
Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau wedi cyhoeddi stad o argyfwng ar ôl i gyfres o stormydd tornado rwygo drwy dde’r wlad gan ddifrodi adeiladau a lladd mwy na 70 o bobol mewn pedwar talaith.

Talaith Alabama sydd wedi diodde’ fwy’, gydag o leiaf 58 o bobol wedi cael eu lladd, ac mae’r Arlywydd Barack Obama wedi cytuno i roi cymorth brys, gan gynnwys tîmau chwilio ac achub.

Mae’r Arlywydd a’i wraig, Michelle Obama, hefyd wedi cydymdeimlo â theuluoedd y rhai sydd wedi’u heffeithio gan y stormydd.

Roedd o leiaf 15 wedi marw yn  Tuscaloosa, cartref Prifysgol Alabama. Yn ôl maer y dref, roedd darnau o’r ddinas wedi’u difetha  yn llwyr.

Parafeddygon

Roedd lluniau newyddion yn dangos parafeddygon yn codi plant allan o gartrefi oedd wedi dymchwel yn  Tuscaloosa. Roedd llawer o’r adeiladau yn y ddinas, sy’n gartref i fwy na  83,000 o bobol, hefyd yn rwbel.

Mae 11 o bobol wedi marw ym Mississippi hefyd, dau yn Georgia ac un yn Tennessee.

Mae arbenigwyr tywydd yn disgwyl i’r storm symud i’r gogledd ddwyrain nesaf.