Yr Arlywydd Assad ym Moscow yn 2008 (Rakkar CCA 3.0)
Mae adroddiadau o Syria’n awgrymu bod mwy na 200 o aelodau plaid y Llywodraeth wedi ymddiswyddo oherwydd y trais at brotestwyr.

Ond fe fydd llysgennad y wlad yn mynd i’r briodas frenhinol yn Llundain fory, er gwaetha’r ffaith ei fod hefyd wedi ei alw i’r Swyddfa Dramor i dderbyn beirniadaeth am ddefnydd ei wlad o drais yn erbyn gwrthdystwyr.

Ymddiswyddo

Papur y Daily Telegraph yw un o’r rhai sy’n cynnwys straeon am y penderfyniad ar y cyd gan aelodau o ‘r blaid Ba’ath yn ardal Deraa, lle mae degau o bobol wedi cael eu lladd gan luoedd y wlad.

Mae’n ymddangos fod y 200 wedi cyhoeddi datganiad ar y cyd yn dweud eu bod yn ymddiswyddo oherwydd “agwedd negyddol” y Llywodraeth at y protestiadau.

Mae’r Telegraph hefyd yn awgrymu bod 28 aelod o’r blaid wedi ymddiswyddo mewn ardal arall lle mae ymladd rhwng protestwyr a’r heddlu a’r fyddin.

Os yw’r straeon yn wir, dyma’r arwydd mawr cynta’ o anniddigrwydd o fewn cylch yr Arlywydd Assad.

Cenhedloedd Unedig – methu â chytuno

Yn y cyfamser, fe fethodd Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig â chytuno ar benderfyniad yn condemnio Syria.

Rwsia oedd un o’r prif wrthwynebwyr, ynghyd â China a Libanus. Yn ôl y Rwsiad, doedd y digwyddiadau yn Syria ddim yn bygwth heddwch rhyngwladol ac felly doedden nhw ddim yn addas ar gyfer gweithredu.