Cafodd un o arweinwydd allweddol al Qaida ei ladd mewn ymosodiad o’r awyr gan Nato yn Afghanistan yn gynharach yn y mis, yn ôl llefarydd ar ran y gynghrair filwrol.

Mae Nato wedi adnabod y dyn a gafodd ei ladd yn yr ymosodiad ar Ebrill 13 fel Abdul Ghani, a oedd yn gyfrifol am ymosodiadau hunan fomwyr ac am sicrhau arian i’r  terfysgwyr.

Dywed Nato i nifer o wrthryfelwyr eraill al Qaida gael eu lladd yn yr ymosodiad.

Roedd Abdul Ghani, a oedd yn ddinesydd Saudi Arabia, yn gyfrifol am ymosodiadau al Qaida yn nhalaith Kunar, a byddai’n teithio’n rheolaidd rhwng Afghanistan a Phacistan i gydgsylltu rhwng gwahanol derfysgwyr. Fe fyddai hefyd yn goruchwylio trosglwyddiadau ariannol o Bacistan i gelloedd yn Afghanistan.

Dywed Nato eu bod nhw wedi bod yn chwilio amdano ers 2007 ac iddyn nhw gael hyd iddo o’r diwedd pan oedd yn cyfarfod aelodau blaenllaw eraill o al Qaida.