Bashar Assad, Arlywydd Syria
Mae’r Ysgrifennydd Tramor William Hague wedi condemnio gweithredoedd threisgar yr Arlywydd Bashar Assad yn erbyn protestwyr yn Syria.

Cadarnhaodd William Hague fod Prydain yn gweithio gyda phartneriaid yng Nghyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig, yr Undeb Ewropeaidd a’r Dwyrain Canol i anfon “neges gref” i’r Arlywydd Assad fod yn rhaid iddo roi’r gorau i’r gormes a’r trais yn erbyn pobl gyffredin y wlad.

Mae drafft o ddatganiad ar y cyd yn cael ei baratoi yn y Cenhedloedd Unedig gan Brydain, Ffrainc, Almaen a Phortiwgal, yn ôl ffynonellau’r Llywodraeth.

Daw hyn wrth i bryder gynyddu ynghylch y tactegau treisgar sy’n cael eu defnyddio gan Lywodraeth Syria i fynd i’r afael â phrotestiadau. 

Ddoe, roedd miloedd o filwyr a thanciau wedi dechrau saethu pobl yn Daraa, y ddinas lle dechreuodd y protestiadau.

Hefyd, mae swyddogion diogelwch â chyllyll wedi bod yn mynd o ddrws i ddrws yn yr ymdrech i ddychryn protestwyr, meddai gwrthdystwyr.

Wrth i’r trais waethygu, mae’r Tŷ Gwyn wedi awgrymu eu bod nhw’n ystyried gwaharddiadau yn erbyn Llywodraeth Syria – y tro cyntaf i swyddogion ddweud fod gwaharddiadau’n bosibl.

Mae dros 350 o bobl wedi marw ers i’r protestiadau yn erbyn y Llywodraeth ddechrau yn Syria fis diwethaf.

Mae protestwyr, oedd yn galw am ddiwygiadau ar y dechrau – bellach yn galw ar yr Arlywydd Assad i adael.