Mae pobl wedi bod yn ffoi o’u cartrefi a’u swyddfeydd ar ynys Java yn Indonesia ar ôl daeargryn yn y môr gerllaw.
Does dim rhybudd o tsunami, nac unrhyw adroddiadau am anafiadau na difrod hyd yma.
Yn ôl Arolwg Daearegol yr Unol Daleithiau, roedd y daeargryn yn mesur 5.4 ar raddfa Richter. Roedd wedi digwydd bron i 50 milltir o dan wely’r môr 88 milltir i’r de o ddinas Cirebon.
Mae Indonesia wedi ei lleoli ar Gylch Tân y Môr Tawel, bwa o losgfynyddoedd a ffawtliniau sy’n amgylchynu basn y Môr Tawel.