Map yn dangos lleoliad talaith Queensland yn Awstralia
Fe fydd dau gi gwyllt – dingoes – yn cael eu difa ar ôl iddyn nhw ymosod ar ferch dair oed ar draeth yn Awstralia.

Roedd y ferch wedi dioddef brathiadau i’w choesau ar ôl iddi grwydro oddi wrth ei theulu i mewn i’r twyni tywod ar Ynys Fraser yng ngogledd-ddwyrain talaith Queensland.

Fe ddywedodd rheolwr cyffredinol Adran Amgylchedd y dalaith, Terry Harper,  fod y ddau dingo wedi eu dal ac y bydden nhw’n cael eu difa.

Mae dros 200 o’r cwn gwyllt yn byw ar Ynys Fraser, ynys boblogaidd gyda theithwyr – tua 155 milltir i’r gogledd o Brisbane.

Mae Ynys Fraser ymhlith yr ychydig leoliadau sy’n gartref i’r dingoes. Mae’r anifeiliaid yn y parc cenedlaethol sy’n rheoli’r ynys, yn cael eu hamddiffyn gan awdurdodau.

Mae ymosodiadau ar bobl yn gymharol brin  – ond mae ymwelwyr i’r Ynys yn cael cyngor i beidio bwydo’r dingoes ac i adael yr anifeiliaid fod.

Yn ôl Terry Harper, roedd y digwyddiad yn pwysleisio mor bwysig yw hi i rieni aros yn agos at eu plant ar Ynys Fraser gan fod plant yn gallu “cynhyrfu” dingoes.

Fe wnaeth bachgen naw blwydd oed farw ar ôl dioddef ymosodiad gan dingoes yn 2001. Fe wnaeth awdurdodau ddifa dros ddau ddwsin o’r cŵn gwyllt bryd hynny.