Chernobyl
Mae’r Wcraen yn paratoi i nodi 25 mlynedd ers i atomfa niwclear Chernobyl ffrwydro, a chreu damwain niwclear waetha’r byd.

Fe yrrodd y ffrwydriad ar Ebrill 26, 1986, gwmwl o ymbelydredd i’r awyr a orchuddiodd y rhan fwya’ o Ewrop, ond a darodd waetha’ ardaloedd yn yr Wcraen ei hunan, Belarws y drws nesa’, a gorllewin Rwsia.

Yr wythnos ddiwetha’, fe lwyddodd cynhadledd yn Kiev i godi 550m ewro (£485m) o’r 740m ewro (£653m) sydd ei angen i godi cysgodfan a storfa newydd ar gyfer tanwydd niwclear.

Fe fydd arlywydd Wcraen, Viktor Yanukovich, a’r patriarch Orthodocs Rwsiaidd, Kirill, yn cofio dioddefwyr y ddamwain niwclear mewn gweddi a thrwy gynnau canhwyllau heno, cyn teithio i orsaf Chernobyl fory.