Di-ildio: Muammar Gaddafi
Mae awyrennau NATO wedi bod yn ymosod o’r awyr ar gadarnle’r Cyrnol Muammar Gaddafi yn Libya, gan ddinistrio llyfrgell aml-lawr a swyddfa, a dinistrio hefyd neuadd ymgynnull ar gyfer gwahoddedigion o wledydd tramor.

Mae’n aneglur lle’r oedd Gaddafi ar adeg yr ymosodiad, gan ei fod yn symud o gwmpas ei wersyll yn Bab al-Azizya.

Fe ddaeth yr ymosodiad wedi i luoedd Gaddafi ymosod yn ddigyfaddaw ar ddinas rebeliaid Misrata, gan dywallt bwledi a rocedi ar y fan. Fe laddwyd 32 o bobol, ac fe anafwyd dwsinau eraill yn ogystal.

Mae’r frwydr tros Misrata wedi lladd cannoedd o bobol yn ystod y deufis diwetha’, ac mae wedi dod yn rhan ganolog o’r frwydr tros reolaeth y wlad gyfan.

Mae fideo yn dangos pobol gyffredin Misrata yn cael eu lladd a’u hanafu gan arfau trymion Gaddafi, wedi gwneud i rai alw am fwy o ymyrraeth gan wledydd o’r tu allan i’r Dwyrain Canol er mwyn dod â’r tywallt gwaed i ben.

Ym Mrwsel, mae llefarydd ar ran NATO wedi cadarnhau fod y cynghreiriaid eisoes yn targedu mannau allweddol i luoedd Gaddafi.