Ban Ki-moon, y Cenhedloedd Unedig
Mae milwyr gwlad Thai a Cambodia wedi bod yn ymladd am bedwar niwnod ar y ffin rhwng y ddwy wlad – ac mae’r naill ochr a’r llall yn rhoi bai ar ei gilydd am ddinistrio dwy deml yn ystod y brwydro.

Mae trafodaethau’n dal i ddigwydd er mwyn ceisio dod â’r ymladd rhwng y ddwy ochr i ben, ond mae Prif Weinidog gwlad Thai i weld yn gwrthod cymorth o’r tu allan, gan ddweud y gall y ddwy wlad ddod i ddealltwriaeth ar eu pennau eu hunain.

Mae’r ddwy ochr yn rhoi bai ar ei gilydd am ddechrau’r ymladd sydd wedi lladd o leia’ 12 o bobol ac wedi gorfodi 30,000 o bobol yng ngwlad Thai, a 17,000 arall yn Cambodia, i adael eu cartrefi.

Mae Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, Ban Ki-moon, wedi galw am gadoediad. Ond dyw hynny ddim yn ymddangos yn bosib ar hyn o bryd.

Mae’r rhan fwya’ o’r brwydro diweddara’ wedi digwydd o gwmpas temlau 1,000 o flynyddoedd oed Ta Moan a Ta Krabey, ill dwy ar dir Cambodia. Maen nhw’n dyddio’n ôl i gyfnod ymherodraeth Khmer a oedd, ar un adeg, yn teyrnasu yn y rhan fwya’ o Cambodia a gwlad Thai.