India
Mae awdurdodau yn India wedi arestio trefnydd Gemau’r Gymanwlad yn Delhi y llynedd, wrth iddyn nhw ymchwilio i honiau o dwyll.
Fe ddywedodd y Central Bureau of Investigation bod Suresh Kalmadi wedi cael ei gyhuddo o gynllwynio i ffafrio cwmni o’r Swistir i brynu offer amseru a sgorio ar gyfer cystadlaethau.
Mae’r ymchwilwyr hefyd wedi bod prisiau’r offer wedi cael ei chwyddo.
Mae dau swyddog arall a oedd ar bwyllgor trefnu’r gemau eisoes wedi cael eu harestio mewn cysylltiad gyda’r un achos.
Mae’r awdurdodau wedi chyuddo Lalit Bhanot and VK Verma o achosi colledion enfawr i lywodraeth India trwy dalu £19 miliwn i gwmni Swiss Timings Ltd am yr offer a oedd ar gael gan gwmni arall am brys llawer rhatach.