Hosni Mubarak, cyn-arlywydd Yr Aifft
Mae Erlynydd Cyffredinol yr Aifft wedi gorchymyn i’r cyn-arlywydd Hosni Mubarak gael ei symud o ysbyty ger y Môr Coch i sefydliad milwrol.

Mae’r erlynydd Abdel-Maguid Mahmoud wedi cadarnhau mai i ysbyty carchar Tora yn y brifddinas, Cairo, yr oedd disgwyl i Mubarak fynd yn wreiddiol, ond nad oedd y sefydliad hwnnw yn barod i’w dderbyn.

Yn hytrach, meddai, fe fydd Mubarak yn aros mewn ysbyty milwrol nes bod y carchar yn barod amdano.

Mae Mr Mubarak wedi bod yn yr ysbyty yn diodde’ o gyflwr y galon ers iddo ef a’i feibion gael eu rhoi yng ngofal yr awdurdodau ar Ebrill 13. Mae ymchwiliad yn parhau i’w rhan nhw mewn nifer o achosion o dwyll, ac o saethu protestwyr yn ystod protestiadau yn erbyn eu harweinyddiaeth.

Fe gamodd Mr Mubarak o’i swydd ar Chwefror 11, o ganlyniad i’r protestiadau yng Nghairo.