Rwsia
Mae mab i un o wyr busnes mawr Rwsia a oedd wedi cael ei herwgipio, wedi cael ei ryddhau yn ddianaf gan luoedd arbennig a heddlu’r wlad.

Mae llefarydd ar ran heddlu Rwsia wedi cyhoeddi ar deledu’r wlad fod y mab 20 oed, Ivan Kaspersky, wedi digwydd trwy gydweithrediad heddlu, y gwasanaeth cudd-wybodaeth, a milwyr y llu arbennig OMON. Mae pump o bobol wedi cael eu harestio ar amheuaeth o herwgipio.

Mae Kaspersky Lab, y cwmni y mae tad Ivan, Evgeny Kaspersky, yn ei redeg, wedi dweud mewn datganiad na chafodd yr un geiniog ei thalu yn gyfnewid am ryddhau’r mab. Mae Ivan bellach mewn man diogel, meddai’r cwmni.

Fe gafodd Ivan Kaspersky ei herwgipio gan ddynion anhysbys y tu allan i fan gwaith ei fam, lle’r oedd y myfyriwr mathemateg yn gweithio.

Mae cwmni Evgeny Kaspersky yn enghraifft o’r modd y mae sawl busnes Rwsiaidd wedi llwyddo ar y llwyfan byd-eang. Mae cylchgrawn Forbes wedi amcangyfrif fod ffortiwn y perchennog yn werth 800m doler (£484m).