Tokyo, prifddinas Japan
Mae elw blynyddol cwmni cyfrifiadurol Nintendo wedi cwympo am yr ail flwyddyn yn olynol, a’r gostyngiad ym mhris consolau DS ynghyd â chryfder yr Yen sy’n cael y bai.

Mae’r cwmni sydd â’i bencadlys yn Kyoto ac sy’n gyfrifol am gemau Super Mario a’r consol Wii, yn dweud fod ei elw ar gyfer y flwyddyn ariannol yn darfod Mawrth 31 eleni wedi cwympo 66% i 77.6 biliwn Yen (£572m) o 228.6 biliwn yen (£1.68bn) y flwyddyn gynt.

Mae’r cwmni’n disgwyl i bethau wella yn raddol dros y flwyddyn nesa’, gyda gwerthiant ei gonsol newydd 3D, y 3DS.

“Dyw Nintendo ddim wedi diodde’ ergyd sy’n mynd i effeithio gormod ar ein cynhyrchu ni yn ystod y flwyddyn nesa’,” meddai llefarydd ar ran y cwmni.

Mae’n rhagweld cynnydd o 8.4% mewn gwerthiant yn ystod y flwyddyn nesa’, i 1.1 triliwn yen (£8.1bn).