Carchar yn Affganistan
Mae 450 o aelodau’r Taliban wedi llwyddo i ddianc o garchar yn ninas Kandahar yn Affganistan, a hynny trwy gloddio twnnel hir dan-ddaear.

Mae’r ymgyrch anferth, a ddigwyddodd dros nos yn ail ddinas y wlad, yn tanlinellu gwendid llywodraeth Affganistan yn y de, cyn belled ag y mae delio ag aelodau milwriaethus y Taliban yn y cwestiwn.

Fe gafodd carchar Sarposa ei gryfhau a’i wneud yn fwy diogel wedi ymosodiad yn 2008 a lwyddodd i ryddhau 900 o garcharorion. Mae swyddogion diogelwch llywodraeth Affganistan wedi bod yn brolio yn gyson fod y carchar yn fwy diogel ers yr ymosodiad hwnnw.

Ond neithiwr (nos Sul), fe lifodd 475 o garcharorion allan o dwnnel a oedd wedi cael ei gloddio dan-ddaear, ac fe ddiflannon nhw i gyd yn ninas Kandahar. Fe gadarnhaodd llywodraethwr y carchar mai milwyr y Taliban oedd y rhan fwya’ o’r carcharorion a lwyddodd i dorri’n rhydd.

Mae llefarydd ar ran y Taliban wedi cadarnhau fod y ddihangwyr wedi cloddio twnnel 1,050 troedfedd o hyd dros gyfnod o bum mis, gan lwyddo i gadw’r holl beth yn gyfrinach.

Ychwanegodd fod tua 100 o’r carcharodion yn arweinwyr o fewn y Taliban, a bod y carcharorion wedi cael eu harwain ar hyd y twnnel dros gyfnod o bedair awr a hanner, a hyn oll heb dynnu sylw’r un giard yn y carchar.