Codi pais - carchar Kandahar heddiw (AP Photo)
Mae bron 500 o garcharorion wedi dianc o garchar yn Afghanistan, a llawer o’r rheiny’n ffigurau amlwg gyda’r Taliban.

Mae’n ymddangos eu bod wedi cloddio twnnel rhwng y carchar a thŷ ar y tu allan ac wedi llwyddo i ddianc tuag 11 o’r gloch neithiwr.

Fe gadarnhaodd pennaeth y carchar yn ninas Kandahar fod 476 o garcharorion wedi dianc a bod llawer o’r rheiny dan glo oherwydd eu gwaith gyda gwrthryfelwyr y Taliban.

Roedd tua 100 ohonyn nhw yn uchel swyddogion gyda’r mudiad Moslemaidd.

Mae tua 1,200 o garcharorion yn y sefydliad yn Kandahar ond mae achosion o ddianc wedi bod o’r blaen.