Arlywydd Bashar Assad
Heddiw, mae grwp hawliau dynol rhyngwladol wedi galw am ymchwiliad i’r modd y gwasgwyd protestwyr yn Syria, a’r ffordd y cafodd 120 o bobol eu lladd yn ystod y dyddiau diwethaf.

Mae Human Rights Watch o Efrog Newydd wedi annog yr Unol Daleithiau a’r Undeb Ewropeaidd i osod sancsiynau ar swyddogion Syria sy’n cael eu cyhuddo o ddefnyddio grym yn erbyn protestwyr sy’n herio’r Arlywydd Bashar Assad.

Mae dros 300 o bobol wedi eu lladd yn ystod y pum wythnos diwethaf, a 120 o’r rheiny yn ystod dydd Gwener a dydd Sadwrn yr wythnos hon. Yn ystod y grwp hawliau dynol, dydd Gwener oedd y diwrnod mwyaf gwaedlyd ers dechrau’r protestiadau, gyda 112 o bobol yn cael eu lladd.

Mae 10 o grwpiau hawliau dynol yn Syria wedi dod at ei gilydd i dynnu sylw at y ffaith bod Daniel Saoud, y protestiwr sy’n arwain Pwyllgorau Amddiffyn Democratiaeth, Rhyddid a Hawliau Dynol, wedi cael ei arestio. Y Pwyllgorau yw un o grwpiau hawliau dynol amlycaf Syria.