Ali Abdullah Saleh
Mae arlywydd Yemen wedi cytuno i gamu i lawr o’r swydd ymhen 30 diwrnod, yn dilyn trafodaethau gydag arweinwyr Arabaidd eraill y Gwlff. Mae’n cytuno i wneud hynny ar yr amod na fydd yn wynebu cael ei erlyn, a hynny ar ôl 32 mlynedd wrth y llyw.

Mae clymblaid o saith o bleidiau sy’n ei wrthwynebu, wedi derbyn y ddêl, er bod ganddyn nhw eu amheuon hefyd.

Hyd yn oed os y bydd modd goresgyn y gwahaniaethau, dyw’r pleidiau hynny ddim yn siarad ar ran yr holl gannoedd o filoedd o brotestwyr stryd sydd am weld yr arlywydd Ali Abdullah Saleh yn mynd.

Yr wythnos ddiwethaf, roedd nifer y proteswyr yn llenwi pump lôn y draffordd trwy’r brifddinas. Ond dro ar ôl tro, mae llywodraeth Yemen wedi taro’n ôl, ac fe laddwyd 130 o bobol yr wythnos ddiwethaf.