Heddlu Gogledd Iwerddon

Fe fydd heddlu yn cynyddu mesurau diogelwch ar ddwy ochr y ffin yn Iwerddon oherwydd pryder am ymosodiadau terfysgol.

Fe fydd gorymdeithiau’n cael eu cynnal i gofio am Wrthryfel y Pasg 1916, y cam cynta’ tuag at annibyniaeth i Iwerddon, ac mae’r heddlu yn y Gogledd yn ofni y gallai hynny arwain at ymosodiadau.

Fe fydd rhagor o heddlu ar y strydoedd a rhagor o rwystrau ar y ffyrdd wrth iddyn nhw geisio atal cynnydd mewn ymosodiadau gan weriniaethwyr ymylol sy’n anhapus gyda’r broses heddwch yn y dalaith.

Fe gafodd ffrwydron eu cipio ddoe yn agos at y ffin gyda’r Weriniaeth ddoe ac fe ymddangosodd dyn o Omagh yn y llys ar gyhuddiadau o fod ag arfau a ffrwydron yn ei feddiant – roedd hynny’n dilyn ymchwiliadau’r heddlu i lofruddiaeth plismon ifanc.

Ddydd Gwener, fe gafodd tri dyn eu harestio am fod ag arfau mewn car – roedd hynny’n dilyn cyrch gan heddlu ar ddwy ochr y ffin.

Mae Heddlu Gogledd Iwerddon wedi rhybuddio pobol i fod ar eu gwyliadwriaeth.