Llun YouTube o ganlyniad y protestiadau yn Izraa ddoe
Mae chwech yn rhagor o bobol wedi cael eu lladd yn Syria, a hynny mewn angladdau i gofio am 75 o brotestwyr a gafodd eu saethu ddoe.

Yn ôl tystion, roedd yna ddegau o filoedd o bobol yn y cynebryngau mewn gwahanol rannau o’r wlad ac fe gafodd pedwar eu lladd ar gyrion Damascus a dau arall mewn pentre’ o’r enw Izraa.

Does dim modd cael cadarnhad annibynnol o’r adroddiadau, gan fod newyddiadurwyr wedi eu hanfon o’r wlad.

Ond, yn ôl un o’r protestwyr, roedd heddlu wedi rhwystro’r galarwyr rhag mynd i fynwent yn ardal Doumas yn y brifddinas.

Fe gafodd Llywodraeth Syria eu condemnio gan wledydd Prydain a’r Unol Daleithiau ar ôl y lladdfa ddoe.

Roedd galarwyr heddiw’n bloeddio sloganau’n erbyn y Llywodraeth a’r Arlywydd Assad.