Yr Arlywydd Bashar Assad
Fe fydd angladdau 75 o bobol yn cael eu cynnal yn Syria heddiw ar ôl i luoedd y llywodraeth saethu at brotestwyr mewn trefi ar hyd a lled y wlad.

Yn ôl y mudiad, Amnest Rhyngwladol, roedd y meirw’n cynnwys plant 7 a 10 oed ac mae mudiad hawliau dynol lleol yn dweud bod 20 arall ar goll.

Dyma’r diwrnod gwaetha’ o drais mewn mis o brotestio yn Syria ac mae’r lladd wedi cael ei gondemnio gan lywodraethau Prydain a’r Unol Daleithiau.

‘Pryder mawr’

Fe ddywedodd yr Ysgrifennydd Tramor, William Hague, ei fod yn “pryderu’n fawr” am y trais yn Syria ac fe alwodd ar yr Arlywydd Bashar Assad i barchu hawl pobol i brotestio’n heddychlon.

Yn ôl yr Arlywydd, Barack Obama, mae’n rhaid i’r lladd ddod i ben ar unwaith ac fe ddylai’r llywodraeth yn Syria ildio i ofynion y protestwyr a chaniatáu rhyddid barn a’r hawl i ddewis eu harweinwyr.

Roedd Bashar Assad wedi rhybuddio protestwyr y byddai’r llywodraeth yn ystyried bod unrhyw wrthdystio pellach yn ymgais i danseilio’r wladwriaeth ond wnaeth hynny ddim rhwystro degau o filoedd rhag mynd i’r strydoedd trwy’r wlad ar ôl gweddïau pwysig ganol dydd Gwener.