Tswnami yn taro Jaoan
Fydd cwmni ceir Toyota ddim yn ail-gydio’n iawn yn y gwaith cynhyrchu cerbydau tan fis Tachwedd neu Ragfyr eleni.

Mae llywydd y cwmni, Akio Toyoda, wedi cyhoeddi datganiad yn ymddiheuro am yr oedi sydd wedi bod wrth geisio ateb gofyn ac archebion ar draws y byd – a hynny ers i tswnami a daeargryn daro gogledd-ddwyrain Japan ar Fawrth 11.

“Rydw i’n ymddiheuo i bob cwsmer sydd wedi penderfynu prynu car gan Toyota, ond sydd wedi gorfod aros am eu cerbyd,” meddai Mr Toyoda.

“Fe gafodd Toyota ei enwi fel y cwmni cynhyrchu ceir gorau yn y byd y llynedd, ond mae wedi cynhyrchu 260,000 yn llai o geir yn barod ers i’r trychineb ladd tua 25,000 o bobol fis yn ôl.”

Yn gynharach yr wythnos hon yr ail-gydiodd Toyota yn y gwaith o gynhyrchu ceir ym mhob un o’u gweithiau yn Japan.

Ond dyw’r gweithiau hynny ddim yn gweithredu’n llawn eto, ac mae’n debyg o fod yn rhai misoedd eto cyn y byddan nhw’n gallu cynhyrchu cymaint o geir ag oedd yn dod oddi ar y lein cyn y trychineb.

“Mae’r cwmni wedi anfon rhai gweithwyr i ardal y trychineb i helpu gyda phob elfen o’r gwaith yno,” meddai Mr Toyoda.