Catherine Zeta Jones
Mae Catherine Zeta Jones, wedi siarad am y tro cyntaf am ei anhwylder meddwl.

Dywedodd yr actores o Abertawe ei bod hi’n gobeithio y byddai diddordeb y wasg yn ei anhwylder deubegwn o gymorth i eraill.

Datgelwyd ei bod hi wedi gorfod mynd i ysbyty meddwl ar ôl helpu ei gŵr Michael Douglas i wella o ganser y gwddf.

“Mae hwn yn anhwylder sydd yn effeithio ar filiynau o bobol ac rydw i’n un ohonyn nhw,” meddai.

“Os ydi clywed fod gen i anhwylder deubegwn II yn annog unrhyw un i ofyn am gymorth, fe fydd y sylw wedi bod o les.

“Does yna ddim pwynt dioddef mewn tawelwch a dim cywilydd mewn gofyn am gymorth.”

Cafodd yr actores 41 oed, sy’n fam i Dylan, 10, a Carys, wyth, ei thrin yn ysbyty meddwl Silver Hill yn New Canaan, Connecticut, yn yr Unol Daleithiau.