Catherine Zeta-Jones (John Harrison CCA 3.0)
Mae’r actores o Abertawe, Catherine Zeta-Jones, wedi bod mewn ysbyty meddwl yn cael triniaeth ar gyfer salwch deubegynol – math o iselder.

Fe ddaeth y cyhoeddiad gan staff yr actores 41 oed ei hun ond maen nhw hefyd yn dweud ei bod yn edrych ymlaen at ddechrau gweithio ar ddwy ffilm.

Mae’n ymddangos ei bod wedi mynd i Ysbyty Silver Hill yn New Canaan, sydd rhyw 50 milltir o Efrog Newydd, yr wythnos ddiwetha’ ac aros yno am bum niwnod.

Straen oherwydd canser ei gŵr

Yn ôl ei swyddog cyhoeddusrwydd, y straen o ddelio gyda chanser ei gŵr sy’n gyfifol am y salwch – mae’n fath sy’n golygu pyliau dwys o iselder.

Mae Michael Douglas wedi cael ei drin am ganser y gwddw yn ystod y flwyddyn ddiwetha’ ac mae gan y cwpwl ddau blentyn ifanc, Dylan Michael a Carys Zeta.

Mae ysbyty Silver Hill yn dweud eu bod yn canolbwyntio ar gyflyrau fel salwch pegynol ac mae ganddyn nhw 80 mlynedd o brofiad.

Canmol am fod yn agored

Fe gafodd Catherine Zeta-Jones ei chanmol am fod yn agored am ei hafiechyd, gan elusen Rethink Mental Illness.

Roedd y salwch yn gallu bod yn anodd a difrifol, meddai llefarydd, Mark Davies. Ond roedd modd ei drin.

Roedd yr actores yn haeddu clod am gyhoeddi’r wybodaeth, meddai, gan ddweud bod gormod o stigma o hyd ynglŷn ag afiechydon o’r fath.