Yr Ysgrifennydd Tramor William Hague
Fe fydd yr Ysgrifennydd Tramor yn mynychu trafodaethau rhyngwladol ar Libya heddiw lle bydd yn dadlau’r angen ar i Nato ddwysau ei ymosodiadau yn erbyn byddinoedd Muammar Gaddafi.

Mae’r grŵp cyswllt rhyngwladol newydd ar Libya a gafodd ei greu fis diwethaf i gyd-lynu’r ymateb rhyngwladol i’r argyfwng yn Libya yn cynnal ei gyfarfod cyntaf yn Qatar.

Daw’r cyfarfod ar ôl i arweinwyr gwrthryfelwyr yn Benghazi wrthod cytundeb a gafodd ei lunio gan Undeb Gwledydd Affrica i atal ymosodiadau – am nad oedd yn cynnwys disodli Gaddafi ar unwaith.

Ddoe, fe wnaeth William Hague ymuno â Gweinidog Tramor Ffrainc, Alain Juppe gan alw ar wladwriaethau Nato i ddwysau eu hymdrech milwrol yn erbyn Llywodraeth  byddinoedd Gaddafi sy’n ymosod ar ddinasoedd gwrthryfelwyr fel Misrata.

Yn ôl Alain Juppe, nid oedd gweithredoedd Nato “yn ddigon”  ac fe ddywedodd fod angen i’r gynghrair – sydd wedi cymryd drosodd oddi wrth yr Americanwyr – “chwarae ei rhan  yn llawn.”