Barack Obama
Mae Barack Obama ac arweinwyr y Gweriniaethwyr wedi llwyddo i ddod i gytundeb fydd yn sicrhau na fydd Llywodraeth Ffederal yr Unol Daleithiau yn cau i lawr am y tro cyntaf ers 15 mlynedd.

Hanner nos oedd y terfyn amser i ddod i gytundeb, ac fel arall fe allai tua 800,000 o bobol oedd yn gweithio i’r llywodraeth wedi bod ar y clwt.

Cytunodd Barack Obama i dorri tua $38 biliwn o gyllideb y llywodraeth ffederal, y “toriad mwyaf mewn hanes,” meddai.

Dywedodd John Boehner, llefarydd y Gweriniaethwyr yn Nhŷ’r Cynrychiolwyr, y byddai gwariant y llywodraeth ffederal yn disgyn $500 biliwn dros y degawd nesaf.

Ers cymryd rheolaeth o Dŷ’r Cynrychiolwyr ym mis Ionawr, mae’r Gweriniaethwyr wedi addo torri nôl ar wariant y llywodraeth ffederal er mwyn lleihau’r diffyg ariannol.

Mae Democratiaid wedi eu cyhuddo nhw o fod eisiau torri gwasanaethau hanfodol y llywodraeth.

Roedd Barack Obama wedi rhybuddio y gallai cau’r llywodraeth ffederal i lawr wneud niwed mawr i economi’r wlad wrth i gannoedd o filoedd golli eu gwaith.

Digwyddodd hynny yn ystod arlywyddiaeth Bill Clinton, a’r Gweriniaethwyr gafodd y bai bryd hynny – ond doedd dim sicrwydd y byddai hynny’n digwydd eto.

Fe fyddai parciau cenedlaethol a gwasanaethau poblogaidd eraill wedi cau, ond fe fyddai rhai gwasanaethau hanfodol gan gynnwys y fyddin wedi parhau i weithredu.