Tokyo, Japan
Mae Japan wedi ei ysgwyd gan ddaeargryn mawr arall, bron i fis ar ôl y daeargryn 9.0 ar y raddfa Richter a’r tsunami laddodd dros 20,000 o bobol ar 11 Mawrth.

Roedd asiantaeth tywydd Japan wedi rhybuddio y gallai tsunami arall daro’r wlad ond maen nhw bellach wedi dweud fod hynny’n annhebygol.

Dywedodd swyddogion fod y daeargryn newydd yn 7.1 ar y raddfa Richter ac wedi taro 25 milltir o arfordir rhanbarth Miyagi.

Roedd adeiladau yn Tokjyo tua 215 milltir i ffwrdd wedi ysgwyd am tua munud. Roedd y daeargryn 60 milltir o Sendai a 90 milltir o orsaf niwclear Fukushima.

Mae cannoedd o ôl-gryniadau wedi ysgwyd gogledd-ddwyrain y wlad ers 11 Mawrth, ond does yr un ohonyn nhw wedi bod dros 7.0 ar y raddfa Richter.