Bradley Manning
Mae Llywodraeth San Steffan wedi dweud eu bod nhw’n pryderu ynglŷn â thriniaeth y milwr o Sir Benfro, Bradley Manning.

Mae Bradley Manning dan glo mewn carchar milwrol yn Virginia ar ôl cael ei arestio ym mis Mai 2010 ar amheuaeth o ddatgelu data cyfrinachol i wefan WikiLeakes.

Mae cefnogwyr y milwr yn dadlau nad oes angen ei gadw dan amodau mor llym.  Mae mewn cell ar wahân i weddill y carcharorion, yn gorfod diosg ei ddillad bob nos, ac mae swyddogion yn cadw llygad arno yn gyson.

Mae’r Cenhedloedd Unedig wedi lansio ymchwiliad er mwyn cael gwybod a ydi ei gadw dan y fath amodau yn gyfystyr ag artaith.

Dywedodd gweinidog o Swyddfa Dramor Prydain, Henry Bellingham, bod staff llysgennad Prydain yn Washington wedi cyfleu eu pryderon i lywodreath yr Unol Daleithiau.

Dyw Bradley Manning heb wynebu achos llys a heb ei gael yn euog o unrhyw drosedd hyd yn hyn.

Croesawodd Naomi Colvin o grŵp UK Friends of Bradley Manning gyhoeddiad Llywodraeth Prydain.

“Fe ddylai Llywodraeth Prydain gefnogi ei deulu yng Nghymru ac fe ddylai rhywun o’r llysgennad ymweld â Bradley ac adrodd ‘nôl,” meddai Naomi Colvin.

Fe gafodd achos Bradley Manning ei godi yn y senedd gan yr Aelod Seneddol, Ann Clwyd, a ddywedodd bod ei driniaeth yn greulon.