Ronan Kerr
Fe fydd gwleidyddion a phenaethiaid heddluoedd o bob ochr i’r ffin yn Iwerddon ymysg y galarwyr yn angladd heddwas Catholig a gafodd ei ladd gan derfysgwyr gweriniaethol ymylol.

Fe fydd Prif Weinidog Gogledd Iwerddon, Peter Robinson, a’r Dirprwy Brif Weinidog, Martin McGuinness, yn mynd i’r angladd, yn ogystal â Taoiseach Gweriniaeth Iwerddon, Enda Kenny.

Cafodd Ronan Kerr ei ladd yn Omagh ddydd Sadwrn, pan ffrwydrodd bom o dan ei gar. Mae disgwyl y bydd yr angladd ym mhentref bach Beragh yn Swydd Tyrone yn un anferth.

Wrth i’r angladd fynd rhagddi fe fydd tyrfaoedd mawr yn cynnal protest yn erbyn y trais 70 milltir i ffwrdd yng nghanol Belfast.

Robinson mewn gwasanaeth Pabyddol

Dyma fydd y tro cyntaf i Peter Robinson, arweinydd Plaid yr Unoliaethwyr Democrataidd, gymryd rhan mewn gwasanaeth Catholig.

Fe fyddai presenoldeb Martin McGuinness o Sinn Feinn mewn angladd heddwas wedi bod yn amhosib hefyd, cyn penderfyniad ei blaid i gefnogi Heddlu Gogledd Iwerddon bedair blynedd yn ôl.

Wrth gyhoeddi ei benderfyniad i fynd i’r angladd, dywedodd Peter Robinson fod y llofruddiaeth wedi gwneud gwleidyddion Gogledd Iwerddon yn fwy penderfynol fyth o sicrhau bod yr heddwch yn parhau yno.

Yn y cyfamser mae elusen annibynnol Taclo’r Tacle wedi cynnig £5,000 am unrhyw wybodaeth fydd o fudd i dditectifs wrth iddyn nhw geisio dod o hyd i’r lladdwyr.