Laurent Gbagbo
Mae arlywydd y Traeth Ifori, Laurent Gbagbo, wedi ildio o’r diwedd a gofyn i’r Cenhedloedd Unedig ei warchod.

Cyhoeddodd asiantaeth newyddion Reuters y newyddion ar ôl gweld dogfennau mewnol gan y Cenhedloedd Unedig oedd yn cadarnhau fod yr arweinydd wedi cytuno i gamu o’r neilltu.

Roedd Laurent Gbagbo wedi colli etholiad arlywydd ym mis Tachwedd ond wedi gwrthod ildio i’w olynydd Alassane Ouattara.

Dywedodd swyddogion y Cenhedloedd Unedig fod Laurent Gbagbo yn cuddio mewn byncer yn ei gartref yn Abidjan.

Llwyddodd gwrthryfelwyr sy’n deyrngar i Alassane Ouattara i gipio y rhan fwyaf o’r wlad mewn tri diwrnod yr wythnos diwethaf.

Ond fe drodd y brwydro’r fwy ffyrnig wrth iddyn nhw gyrraedd Abidjan, dinas fwyaf y wlad ble mae’r palas arlywyddol.

Ddoe dechreuodd y Cenhedloedd Unedig a lluoedd Ffrengig ymosod ar ganolfannau milwrol yn y wlad, yn ogystal â’r palas arlywyddol.

Dywedodd llefarydd ar ran Laurent Gbagbo fod ei gartref wedi ei daro o leiaf 50 o weithiau gan un o hofrenyddion y Cenhedloedd Unedig.

Mae cannoedd wedi marw o ganlyniad i’r trais a miloedd wedi gorfod ffoi.