Malaysia
Mae pum milwr wedi eu gwahardd o fyddin Malaysia am ladd aderyn prin.

Roedd cadwraethwyr wedi beirniadu’r dynion ar ôl iddyn nhw gyhoeddi llun ar Facebook ohonyn nhw eu hunain yn dal yr aderyn marw.

Dywedodd llefarydd ar ran Gweinyddiaeth Amddiffyn Malaysia bod y milwyr wedi penderfynu lladd yr aderyn ar ôl dod o hyd iddo mewn poen ar ôl iddo gael ei saethu.

Roedd y milwyr wedi bod ar batrôl mewn jyngl sy’n ferw o helwyr anghyfreithlon.

Dywedodd y llefarydd y gallai’r dynion wynebu cyhuddiadau o ladd yr aderyn.