Musa Kusa
Mae heddlu’r Alban sy’n gyfrifol am yr ymchwiliad i fomio Lockerbie wedi dweud y byddan nhw’n cwrdd â Musa Kusa yn ystod y dyddiau nesaf.

Fe fuodd heddlu ac erlynyddion yn trafod â swyddogion y Swyddfa Dramor ddydd Llun, gan wneud cais swyddogol i gael gair â Musa Kusa.

Mae disgwyl y bydd Musa Kusa yn cael ei holi am ymosodiad terfysgol Lockerbie, hawliodd 270 o fywydau yn 1988.

“Mae’n bosib cadarnhau bod cynrychiolwyr Swyddfa’r Goron a Heddlu Dumfries a Galloway wedi cwrdd â swyddogion y Swyddfa Dramor heddiw er mwyn trafod cael mynediad at Musa Kusa,” meddai llefarydd ar ran Swyddfa’r Goron yn yr Alban neithiwr.

“Roedd yn gyfarfod cadarnhaol iawn ac rydyn ni wedi trefnu i gyfarfod â Musa Kusa yn ystod y dyddiau nesaf.”

Mae’r Ysgrifennydd Tramor, William Hague, eisoes wedi dweud y byddai’r Swyddfa Dramor yn annog Musa Kusa i gydweithio gydag ymchwilwyr.

Roedd Musa Kusa yn uwch-asiant cudd-wybodaeth yn Libya adeg bomio Lockerbie ym mis Rhagfyr 1988.