Malaysia
Mae athro mewn ysgol ym Malaysia wedi ei gadw yn y ddalfa ar ôl cael ei gyhuddo o ladd bachgen saith oed.

Bu farw Saiful Syazani Saiful Sopfideehad o anafiadau i’w ben a gwaedu mewnol ar ôl cael ei gyhuddo o ddwyn £1.40.

Honnir iddo gael ei glymu i ffenestr am ddwy awr a chael ei daro a’i dagu.

Dywedodd pennaeth heddlu Malaysia yn nhalaith Perlis yng ngogledd y wlad, Mohamad Nadzri Hussain, fod y bachgen wedi mynd i goma a marw o’i anafiadau yn yr ysbyty.

Dioddefodd yr anafiadau mewn ysgol breifat dydd Iau diwethaf.

Dywedodd Mohamad Nadzri Hussain y gallai’r athro 26 oed gael ei gyhuddo o lofruddio’r bachgen, ac fe allai wynebu’r gosb eithaf.