Muammar al-Gaddafi
Llwyddodd gwrthryfelwyr Libya i gipio tref strategol Brega heddiw, wrth i luoedd Muammar Gaddafi geisio ateb diplomyddol i’r gwrthdaro.

Mae Brega wedi bod yn faes i sawl brwydr dros yr wythnosau diwethaf wrth i’r momentwm siglo nôl ac ymlaen fel pendil cloc.

“Rydyn ni’n mynd eto. Erbyn diwedd y dydd fe fyddwn ni wedi cipio Brega,” meddai Salam Idrisi, gwrthryfelwr 42 oed. “Rydyn ni’n fwy trefnus nawr ac mae hynny wedi chwarae rhan.”

Dywedodd cennad dros Gaddafi wrth Brif Weinidog y Wlad Groeg ddoe fod arweinydd Libya yn gobeithio dod a’r rhyfel i ben yn fuan.

“Fe ges i’r argraff fod y gyfundrefn eisiau dod o hyd i ateb,” meddai Gweinidog Tramnor Gwlad Groeg, Dimitris Droutsas.

Mae llywodraeth Gaddafi eisoes wedi datgan sawl gwaith y bydd yn rhoi gorau i saethu at y gwrthryfelwyr, ond heb wneud hynny.