Barack Obama
Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau, Barack Obama, wedi cadarnhau y bydd yn sefyll eto yn Etholiad Arlywyddol 2012.

Rhyddhaodd ei dîm ymgyrchu fideo ar ei wefan heddiw oedd yn cadarnhau y byddai yn ymgeisio am ail dymor.

Cyhoeddodd y Tŷ Gwyn dros y penwythnos eu bod nhw’n bwriadu cysylltu â’r Comisiwn Etholiadol Ffederal er mwyn cofrestru ei ymgais i gael ei ethol yn 2012 yn swyddogol.

Mae eisoes wedi dechrau codi arian ar gyfer yr ymgyrch.

Does dim ceffyl blaen amlwg ymysg y Gweriniaethwyr sydd yn gobeithio ei herio ar hyn o bryd. Ymysg yr enwau amlycaf mae Mike Huckabee, Sarah Palin, a Mitt Romney.