Gorsaf niwclear Fukushima
Mae gweithwyr yng ngorsaf niwclear Fukushima Dai-ichi wedi bod yn lliwio dŵr ymbelydrol yn wyn er mwyn cael gwybod i le y mae yn mynd.

Maen nhw wedi bod yn pwmpio’r dŵr i mewn i’r adweithyddion niwclear yno er mwyn eu cadw nhw’n oer.

Ond mae’r dŵr wedi bod yn gollwng, ac mae pryder y bydd y yn lledu ymbelydredd ymhell o’r orsaf niwclear.

Mae’r gweithwyr wedi bod yn ei liwio’n wyn llaethog fel eu bod nhw’n gwybod os yw’n llifo i rywle arall.

Mae dŵr wedi bod yn ffrydio o’r orsaf niwclear ac yn gollwng i mewn i’r môr yn dilyn y daeargryn a’r tsunami yno bron i fis yn ôl.

Cadarnhaodd y llywodraeth ddoe y gallai gymryd sawl mis cyn bod modd adfer systemau oeri’r adweithyddion niwclear.

Hyd yn oed wedyn fe fydd yn cymryd blynyddoedd i lanhau’r ardal o amgylch yr orsaf niwclear a phenderfynu beth i’w wneud â’r cwbl.

“Mae’n rhaid i ni barhau i roi dŵr i mewn i’r adweithyddion er mwyn atal y tanwydd rhag toddi, hyd yn oed os oes sgil effaith anffodus, sef fod y dŵr yn gollwng,” meddai Hidehiko Nishiyama, llefarydd ar ran Asiantaeth Diogelwch y Diwydiant Niwclear.

“Rydyn ni eisiau cael gwared ar y dŵr marwaidd a dadlygru’r lle fel ein bod ni’n gallu canolbwyntio ar y brif dasg sef adfer y system oeri cyn gynted a bo modd.”

Mae hyd at 25,000 o bobol eisoes wedi marw o ganlyniad i’r trychineb yn Japan.

Mae miloedd wedi gorfod ffoi i’r ardal 12 milltir o’r orsaf niwclear oherwydd ymbelydredd.