Milwyr yn Irac
Mae dau filwr o America wedi cael eu lladd mewn ymosodiad gan rocedi ar uned yn ne Irac.

Mae llefarydd ar ran milwyr yr Unol Daleithiau yn Irac, wedi cadarnhau fod yna ymodiad wedi bod ar yr uned, ond mae wedi gwrthod hyd yma ag enwi’r milwyr sydd wedi eu lladd. Mae’n rhaid aros nes y bydd y teuluoedd wedi cael clywed, meddai.

Mae tua 47,000 o filwyr America yn parhau i weithio yn Irac, llai na thraean y 166,000 oedd yno ym mis Hydref 2007 pan oedd presenoldeb yr Unol Daleithiau ar ei hamlyca’.

Ond mae ymgyrchwyr milwriaethus Shiite yn ne’r wlad wedi addo parhau i ymosod ar y milwyr, nes y bydd pob un wedi gadael Irac.

Mae’r ddwy farwolaeth ddiweddara’ hon yn codi cyfanswm y rhai sydd wedi eu lladd yn Irac i 4,443 ers dechrau’r rhyfel ym mis Mawrth 2003.