Ateb galw am olew...
Mae cwmni olew BP yn cynllunio i ail-ddechrau drilio am olew yng Nghulfor Mecsico yr haf hwn, flwyddyn yn unig wedi ffrwydriad ar blatfform Deepwater Horizon a’r trychineb amgylcheddol gyda’r gwaethaf erioed.

Mae’r cwmni yn bwriadu dechrau gweithio ar ddeg o ffynhonnau yn y Culfor ar ôl cael caniatad gan reolwyr yn yr Unol Daleithiau i barhau â’r gwaith y bu’n rhaid rhoi’r gorau iddo wedi’r ffrwydriad.

Mae’r penderfyniad yn debygol o wylltio’r cyhoedd, gan nad oes ond prin flwyddyn ers i filiynau o alwyni o olew lifo i’r môr, ac i 11 o ddynion gael eu lladd.  

Mae BP yn gwario tua 41 biliwn o ddoleri America (£25.4bn) ar lanhau’r ardal ac ar dalu costau wedi’r digwyddiad, ond mae’r materion cyfreithiol ymhell o gael eu sortio.

Yr wythnos ddiwethaf, roedd erlynwyr yn trafod dwyn cyhuddiadau o ddynladdiad yn erbyn rheolwyr BP.