Ali Abdullah Saleh
Mae degau o filoedd o brotestwyr sy’n gwrthwynebu llywodraeth Yemen wedi bod yn taflu cerrig at yr heddlu a’r tanciau yn rhanbarth ddeheuol Aden. Mae ralïau yn cael eu cynnal yn y brifddinas heddiw.

Mae bron i ddeufis o brotestiadau dyddiol wedi’u cynnal er mwyn trio disodli Arlywydd Ali Abdullah Saleh, ond maen nhw hyd yma wedi methu â chael gwared ar y gwr sydd wedi bod yn ei swydd ers 32 mlynedd.

Ers i brotestiadau yn yr Aifft lwyddo i ddisodli’r Arlywydd Mubarak, mae protestwyr wedi gobeithio y byddai’r un peth yn gallu digwydd yn Yemen a thros wledydd y Dwyrain Canol.

Ond mae’r ymateb milwrol o du’r Arlywydd Saleh wedi bod yn galed ac yn greulon, nes fod y rheiny oedd yn arfer ei gefnogi – hyd yn oed ei lwyth ei hun – bellach wedi troi cefn arno. Er hynny, mae o’n gwrthod camu i lawr.