Laurent Gbagbo
Mae ymosodwyr yn cario cyllyll miniog a gynnau wedi lladd mwy na 1,000 o bobol gyffredin mewn tref yn y Traeth Ifori.
Mae’r Cenhedloedd Unedig yn y wlad yn dweud fod tim sydd yn ymchwilio i’r lladdiadau yng ngorllewin Duekoue yn honni fod y mwyafrif o’r 1,000 o bobol yn edrych ar ôl tua 15,000 o ffoaduriaid mewn canolfan genhadol gan y Pabyddion yn y dref.
Fe gafodd cannoedd o gyrff eu canfod yn dyllau bwledi I gyd, ac eraill wedi eu hacio i farwolaeth gyda chyllyll miniog.
“Fe ddigwyddodd y lladdfa yn rhan Carrefour y dre’, yn ystod brwydro rhwng dydd Sul diwetha’, Mawrth 27 a dydd Mawrth, Mawrth 29,” meddai llefarydd.
“Dydyn ni ddim yn siwr pwy sy’n gyfrifol am y lladd yma, ond mae ymchwiliad ar y gweill, er mwyn cael at y gwir.”