Fukushima
Mae’r cwmni sy’n rhedeg gwaith niwcliar yn Japan, wedi cyhoeddi heddiw fod dau weithiwr wedi eu lladd pan darodd tswnami.

Fe ddaeth y cyhoeddiad gan y Tokyo Electric Power Co (Tepco), a dyna’r tro cynta’ iddyn nhw gydnabod fod pobol wedi eu lladd yn y gwaith. Roedd y gweithwyr wedi bod ar goll ers Mawrth 11, pan darodd daeargryn a’r don fawr.

Yn ôl llefarydd fe gafodd y cyrff eu canfo ddydd Mercher, ond fe fu oedi cyn cyhoeddi’r marwolaethau o barch i’r teuluoedd.

Mae ymbelydredd wedi bod yn dianc o’r gwaith ers i’r adweithyddion or-boethi.