Gaddafi
Mae lluoedd llywodraeth Libya wedi lladd chwech o bobol gyffredin yn ninas Misrata heddiw, wrth iddyn nhw danio yn ddidrugaredd wrth geisio gyrru’r rebeliaid yn eu holau o’r brif ddinas y maen nhw wedi ei chipio yng ngorllewin y wlad.

Mae meddygon yn dweud fod cyfanswm o 243 o bobol wedi cael eu lladd, a 1,000 wedi eu hanafu yn ystod mis a hanner o ymladd rhwng lluoedd Muammar Gaddafi a’r rebeliaid yn Misrata.

Mae un meddyg wedi mynd mor bell â honni fod lluoedd y llywodraeth yn mynd ati’n fwriadol i anafu pobol gyffredin.

Yn y cyfamser, mae NATO yn dweud ei fod yn ymchwilio i adroddiadau fod awyren ryfel y cyngheiriaid wedi taro safle lle’r oedd rebeliaid yn tanio i’r awyr.