Laurent Gbagbo
Mae’r swyddogion milwrol sy’n driw i’r arweinydd sy’n gwrthod ildio grym, wedi galw ar y fyddin i daro’n ôl yn erbyn gwrthryfelwyr sy’n trio cael gwared â’r arlywydd.

Mae’r lluoedd sy’n driw i Laurent Gbagbo wedi ail-feddiannu pencadlys teledu’r wlad heddiw, ac mae llefarydd ar ran Gbagbo wedi annerch y genedl ar deledu.

Mae wedi galw ar y lluoedd i wrthsefyll ymosodiadau gan luoedd sy’n gweithio ar ran yr arlywydd newydd, Alassane Ouattara. Mae rhyfelwyr hwnnw, bellach, yn rheoli’r rhan fwyaf o’r wlad.

Mae rebeliaid sy’n cefnogi Ouattara wedi gwneud cynnydd mawr ar draws y wlad yr wythnos hon, gan gipio’r brifddinas ddydd Mercher, cyn mynd yn eu blaenau i Abidjan, dinas fwya’r wlad.