Mae etholiad Cynulliad Cenedlaethol Nigeria wedi ei ohoni, oherwydd fod gwaith papur pwysig wedi mynd ar goll o orsafoedd pleidleisio ar draws y wlad. Mae’n destun pryder, wrth i’r wlad wynebu cynnal mis o etholiadau allweddol.

Mae’r gwr sy’n gyfrifol am yr etholiad, Attahiru Jega, wedi dweud wrth bleidleiswyr, mewn anerchiad radio, fod y wlad yn wynebu “argyfwng” a bod angen cymryd camau anghyffredin er mwyn gwneud yn siwr fod y bleidlais yn un deg a rhydd.

Fe ymwelodd swyddogion â’r 120,000 gorsaf bleidleisio yn y wlad ddydd Llun er mwyn dechrau ar y gwaith o fesur barn y bobool.

“Does dim byd allwn ni ei wneud i osgoi gohirio’r etholiad,” meddai.

Roedd etholiad heddiw i fod i benderfynu pwy fyddai’n ennill seddi yng Nghynulliad Cenedlaethol y wlad, swyddi sy’n werth £620,000 o gyflogau a breintiau eraill. Roedd hefyd yn gyfle i Gomisiwn Etholiadol Nigera I brofi eu bod nhw’n gallu cynnal etholiadau teg, yn dilyn hanes o dwyll.

Yn Ibadan, dinas rhyw 90 milltir o’r brifddinas fasnachol, Lagos, mae heddlu wedi bod yn stopio ceir. Roedd pobol leol wedi bod yn crynhoi o gwmpas y gorsafoedd pleidleisio ac yn aros i fwrw eu pleidlais. Roedd rhai, hyd yn oed, wedi rhoi inc ar eu bysedd yn barod er mwyn gwneud eu marc ar y papur.

Doedd swyddogion un orsaf bleidleisio ddim yn ymwybodol fod yr etholiad wedi ei ohirio, nes iddyn nhw glywed y newydd gan newyddiadurwyr tramor.