Mae brwydro ffyrnig a bomiau’n ffrwydro yng ngwlad Y Traeth Ifori yn Affrica. 

Mae cefnogwyr y dyn sy’ wedi ei ethol yn Lywydd y wlad, wedi ymosod ar balas yr Arlywydd presennol, sy’n gwrthod ildio grym.

Mae Alassane Ouattara yn cael ei gydnabod gan y Cenhedloedd Unedig fel Llywydd teilwng y wlad, ond mae ei elyn Laurent Gbagbo yn anfodlon rhoi’r gorau iddi.

Yn ninas Abidjan mae cefnogwyr Ouattara a Gbagbo yn brwydro, a byddin Ffrainc wedi cludo rhyw 500 o dramorwyr oddi yno i safle milwrol oherwydd pryderon am ddiogelwch.

Cafodd Ouattra ei gydnabod yn rhyngwladol fel y Llywydd y llynedd, ar ôl i’r Comisiwn Etholiadol ddweud mai ef enillodd yr etholiad yno fis Tachwedd. Ond mae Gbagbo yn gwrthod derbyn hyn, ac yn dal i hawlio mai ef wnaeth ennill.