Gwrthdaro yn Yemen
Mae Llywodraeth Prydain wedi galw ar yr holl Brydeinwyr sydd yn Yemen i adael ar drothwy protestiadau yno heddiw.

Yn ôl y Swyddfa Dramor, fe ddylai pobl adael “tra bod yna awyrennau masnachol dal i hedfan”.

Dywedodd y Swyddfa Dramor y byddai’n annhebygol iawn y bydd modd symud Prydeinwyr o’r wlad wrth i’r sefyllfa diogelwch ddirywio yno.

Maen nhw wedi bod yn cynghori pobl yn erbyn teithio i Yemen er 4 Mawrth ac wedi bod yn cynghori Prydeinwyr i adael er 12 Fawrth.

“Mae’r alwad ddiweddaraf yn dangos pa mor ddifrifol yw’r sefyllfa yno,” meddai llefarydd ar ran y Swyddfa Dramor.

“Mae’n rhaid i lywodraeth Yemen weithredu’n fuan er mwyn adennill ffydd y gwrthbleidiau a’r protestwyr. Fel arall ni fyddwn nhw’n gallu dod i gytundeb.”