Rhian Yoshikawa
A hithau’n tynnu at dair wythnos ers tswnami a daeargryn mawr Japan, mae Cymraes sy’n byw yno wedi dweud wrth Golwg360 bod yna deimlad bellach bod “y gwaethaf drosodd”.

Mae Rhian Yoshikawa sy’n byw mewn tref lan môr tua dwy awr i’r gorllewin o’r brifddinas, Tokyo, ei bod yn teimlo’n fwy hyderus ac nad yw ymbelydredd o atomfa Fukushima Dai-ichi yn eu peryglu nhw.

“Rydym wedi cael ein cynghori i beidio â bwyta llysiau o Fukushima. Ond, gan nad ydynt ar gael yn y siopau dydi o ddim yn broblem i’n hiechyd,” meddai’r Gymraes sy’n wreiddiol o Langefni ond sydd wedi byw yn y wlad ers dros ddau ddegawd.

“Rhaid cofio mai dim ond am un diwrnod yr oedd  lefelau ymbelydredd yn y dŵr yn uchel. Ers hynny mae lefelau wedi bod yn disgyn o ddydd i ddydd.

Wrth gwrs mae’r lefelau yn dal i fod yn uchel yn yr ardal o gwmpas  gorsaf Fukushima. Ond mae’r dŵr yn ein hardal ni, y llysiau a’r pysgod wedi cael eu profi ac yn glir.

“Yn bersonol, rŵan fod cymaint o arbenigwyr rhyngwladol yn gweithio hefo cwmni trydan Tokyo a llawer mwy o wybodaeth am beth aeth o le, mae gen i ffydd na ddaw’r sefyllfa’n llawer gwaeth – er ei bod hi’n mynd i gymryd amser maith i’w wella, wrth gwrs.

“Lle mae’n mynd yn broblem wrth gwrs ydi pan mae’n amharu ar fywyd y ffermwyr. Mae sôn am un ffermwr o leia’ sydd wedi lladd ei hun am fod y sefyllfa mor anobeithiol.”

‘Y broblem fwyaf’
Y broblem fwya’ bellach meddai Rhian Yoshikawa yw’r ffordd y mae Japan yn cael ei thrin yn y wasg.

“Mae yna drychineb enfawr wedi digwydd. Ond, rhaid cofio mai dim ond yn un rhan o Japan mae o wedi digwydd … Mae Tokyo wedi dianc yn eithaf da.

“Mi oeddwn i yn y ddinas dydd Gwener ddiwethaf ac mi roedd pawb yn mynd o gwmpas eu bywydau arferol. Mae digon yn y siopau a’r lonydd yn glir.

“Mae yna straeon am bobol yn canslo eu gwyliau – hyd yn oed mewn llefydd lle nad oes sôn am ymbelydredd. Mae hyn yn beryglus iawn i economi Japan.

“Roedd fy mam yn dweud bod sôn o hyd am yr ymbelydredd ar y teledu adra’ – ond ddim llawer o sôn am y bobol sydd wedi colli pob dim, eu  tai a’u teuluoedd. Mae miloedd ohonyn nhw’n dal i fwy mewn “evacuation centres” heb drydan, dŵr nac olew.

“Mae’r lonydd yn cael eu trwsio a chyflenwadau argyfwng yn cyrraedd yn well nag o’r blaen. Ond mae yna ffordd bell i fynd eto. Rhaid peidio ag anghofio hynny ynghanol y stŵr am yr ymbelydredd!

“Ond mae’r teimlad cyffredinol yn eithaf positif gyda llawer o bobl yn casglu arian a rhai enwogion yn annog pobol i weithio gyda’i gilydd i ail adeiladu’r wlad.”