Abdelbaset al Megrahi - bomiwr Lockerbie
Mae erlynwyr yn yr Alban wedi dweud wrth y Swyddfa Dramor eu bod eisiau cyfweld â Gweinidog  Tramor Libya ynglŷn â thrychineb Lockerbie.

“R’y ni wedi hysbysu’r Swyddfa Dramor bod awdurdodau ymchwilio ac erlyn yn awyddus i gyfweld a Moussa Koussa,” meddai llefarydd ar ran Swyddfa’r Goron yng Nghaeredin.

“Mae ymchwiliadau i fomio Lockerbie yn parhau ac fe fyddwn ni’n parhau i holi.”

Fe ddihangodd Moussa Koussa i wledydd Prydain dros nos gan ddweud ei fod yn troi cefn ar Lywodraeth y Cyrnol Gaddafi.

Y cefndir

Fe gafodd Moussa Koussa ei benodi’n Weinidog Tramor Libya ym mis Mawrth 2009 ac roedd yn bennaeth ar asiantaeth cudd-wybodaeth Libya rhwng 1994 a 2009.

Fe dderbyniodd glod am berswadio Muammar Gaddafi i ddod i ddealltwriaeth gyda’r gorllewin a rhoi’r gorau i ddatblygu arfau a chyllido terfysgaeth.

Ond mae hefyd yn cael ei ystyried yn ffigwr allweddol yn y gwaith  sicrhau bod bomiwr Lockerbie yn cael mynd yn ôl i Libya.