Gweddillion awyren Lockerbie
Mae tad merch a fu farw yn nhrychineb Lockerbie wedi dweud bod penderfyniad y Gweinidog Tramor, Moussa Koussa, i droi cefn ar Libya’n “ddiwrnod gwych” i berthnasau’r rhai a gafodd eu lladd yn y bomio.

Ac yntau’n un o gefnogwyr agos Muammar Gaddafi, mae’r gwleidydd yn cael ei holi gan yr awdurdodau yng ngwledydd Prydain ar ôl dweud ei fod yn ymddiwswyddo.

Yn ôl y Swyddfa Dramor, mae Moussa Koussa wedi dweud nad yw “bellach yn fodlon” cynrychioli’r Cyrnol Gaddafi ar lwyfan y byd.

Mae Jim Swire, a gollodd ei ferch Flora yn y trychineb wedi dweud bod Moussa Koussa wrth galon llywodraeth Libya ac fe allai ddatgelu’r cyfan ynglŷn â’r bomio.

Bu farw 270 o bobol pan ffrwydrodd awyren Pan Am 103 uwchben Lockerbie ym mis Rhagfyr 1988.

Meddai’r tad

“Fe ddylai’r perthnasau hynny sy’n ceisio canfod pam y cafodd aelodau o’u teulu eu llofruddio fod yn llawenhau heddiw,” meddai Jim Swire.

“Roedd Koussa’n agos at Gaddafi ac mae’n gwybod y cyfan. Fe allai ddweud popeth am deyrnasiad Gaddafi. Fe allai ddweud sut y cafodd y bomio ei weithredu a pham”

“Mae’n ddiwrnod ardderchog i’r rhai hynny sydd am gael y gwirionedd am Lockerbie.”