Moussa Koussa
Mae Gweinidog Tramor Muammar Gaddafi yn cael ei holi gan yr awdurdodau yng ngwledydd Prydain ar ôl gadael y Llywodraeth yn Libya.

Yn ôl y Swyddfa Dramor, mae Moussa Koussa wedi dweud nad yw “bellach yn fodlon” cynrychioli’r Cyrnol Gaddafi ar lwyfan y byd.

Ond mae lluoedd Llywodraeth Libya’n ennill tir ac mae’r gwrthryfelwyr wedi gofyn am ragor o gymorth gan wledydd eraill.

‘Dod o’i wirfodd’

Er bod y Llywodraeth yn Libya’n honni mai ar daith ddiplomyddol yr oedd y Musa Kusa, mae’r Swyddfa Dramor yn Llundain wedi cadarnhau ei fod yn ceisio am loches.

Maen nhw wedi annog rhagor o weinidogion Libya i wneud yr un peth ac mae yna fygythiadau wedi bod y gall arweinwyr y wlad wynebu achosion hawliau dynol oherwydd y lladd yno.

“Gallwn gadarnhau bod Moussa Kouussa wedi cyrraedd maes awyr Farnborough ar 30 Mawrth o Tunisia,” meddai llefarydd ar ran y Swyddfa Dramor.

“Fe ddaeth yma o’i wirfodd. Mae wedi dweud wrthon ni ei fod yn ymddiswyddo. R’yn ni’n trafod hyn gydag ef ac fe fyddwn ni’n cyhoeddi rhagor o fanylion yn y man.

“Mae Moussa Koussa yn un o brif uwch swyddogion Llywodraeth Gaddafi ac roedd yn cynrychioli Llywodraeth Gaddafi ar draws y byd – rhywbeth nad yw’n fodlon ei wneud rhagor.”

Gofyn am gymorth

Mae gwrthryfelwyr yn parhau i ofyn am fwy o gymorth ar ôl i filwyr Gaddafi ail ennill tref olew strategol a symud ymhellach tua’r dwyrain.

Mae gwledydd Nato’n parhau i bwyso ar Gaddafi gydag ymosodiadau awyr ac mae yna drafodaeth ynglŷn â’r posibilrwydd o roi arfau i’r gwrthryfelwyr.