Peth o'r difrod yn yr atomfa (AYNRh)
Mae lefelau ymbelydredd yn parhau i godi  yn y môr y tu allan i atomfa Fukushima Dai-ichi, meddai arbenigwyr heddiw.

Maen nhw wedi gofyn i’r awdurdodau ystyried symud rhagor o bobol o’u cartrefi, gydag arbenigwyr atomig y Cenhedloedd Unedig yn dweud bod lefelau uchel o ymbelydredd wedi eu canfod mewn pentref 25 milltir o’r atomfa.

Mae hwnnw y tu allan i’r cylch 12 milltir lle mae pobol wedi cael eu gorfodi i symud ac, er bod y rhan fwya’ o bobol yr ardal wedi mynd yn wirfoddol, mae tua 100 ar ôl.

Mae’r newyddion yn cryfhau’r ofnau am broblemau tymor hir oherwydd y difrod i’r atomfa yn y daeargryn a’r tswnami a drawodd Japan ddechrau’r mis.

“Ry’n ni’n trin hyn o ddifri’,” meddai llefarydd ar ran yr Asiantaeth Ynni Atomig Ryngwladol. “Mae’n bosibl y byddwn ni’n gofyn i’r bobol hyn adael. Ond, mae angen mwy o amser arnon ni i ystyried y sefyllfa.”

Mae’r Asiantaeth yn dweud bod y sefyllfa yn Fukushima Dai-ichi yn parhau’n “ddifrifol”.

Ddoe, fe ddaeth arbenigwyr o hyd i’r lefel uchaf eto o ïodin mewn dŵr mor y tu allan i atomfa niwclear Fukushima Dai-ichi. Maen nhw’n dweud bod y lefel fwy na 3,000 o weithiau’n fwy nag arfer ond yn pwysleisio y bydd yn colli ei rym yn gyflym.